Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Tai » Dod o hyd i lety ar rent » Rhannu Cartref

  • Pe fyddech yn rhentu, efallai y byddech yn rhannu cartref gyda phobl eraill. Gall y rhain fod yn bobl ddieithr, aelodau teulu, ffrindiau neu hyd yn oed y landlord os ydych chi'n lletya
  • Gall gymryd amser i ddod i arfer â rhannu cartref gyda phobl eraill. Mae gan bawb eu harferion eu hun a'u ffordd o wneud pethau, ac mae'n bosib y bydd rhaid i bawb yn y ty gyfaddawdu er mwyn creu awyrgylch heddychlon i fyw ynddi
  • Gall fod o gymorth trafod yr hyn y disgwylir i bawb eu gwneud o'r cychwyn cyntaf a gosod rheolau sylfaenol y mae pob un yn cytuno arnynt. Er enghraifft, dylech ystyried:
    • Gwaith ty
      • Pwy sy'n gyfrifol am lanhau'r llefydd cyffredin fel y gegin a'r ystafell ymolchi?
      • A fyddwch yn llunio rhestr glanhau i sicrhau bod pawb yn gwneud rhan o'r gwaith?
      • Ydy pawb yn gyfrifol am olchi eu llestri eu hun?
    • Biliau
      • Sut rhennir y biliau?
      • Pwy fydd yn gyfrifol am dalu'r arian?
      • Enw pwy fydd ar y biliau?
    • Eitemau'r ty
      • Sut telir am eitemau ty cyffredinol fel nwyddau glanhau, sachau sbwriel a phapur ty bach?
      • Pwy sy'n gyfrifol am brynu'r rhain? A oes rota ar gyfer hyn?
      • Dylid cael cronfa y mae pawb yn rhoi arian ynddi er mwyn talu am eitemau fel rhain?
    • Bwyd
      • A fydd pawb yn prynu eu bwyd eu hun neu a fyddwch yn rhannu'r gost?
      • A gaiff eitemau bwyd fel llaeth, bara, te neu goffi eu prynu o arian cronfa'r ty neu'n unigol?
    • Gwestai
      • Gall cariadon aros dros nos?
      • Gall ffrindiau neu deulu aros dros nos/ar y penwythnos?
      • Ble fydd gwestai'n aros?
  • Nid yw unrhyw ddau berson yr un peth a bydd gan bawb farn wahanol ar sut i wneud pethau. Gwrandewch ar syniadau pawb a chrëwch drefn y mae pawb yn hapus gyda hi.
  • Gall byw gyda rhywun fod yn brofiad gwych, ond gall fod yn angerddol ac mae dadlau rhwng cyd-letywyr yn gyffredin nawr ac yn y man. Peidiwch â phoeni os ydych wedi dadlau. Ceisiwch siarad yn ddigyffro gyda'ch cydletywr a thrafodwch beth achosodd y ddadl a sut y gellir datrys y broblem
  • Y peth pwysicaf ynglyn â rhannu ty yw parchu'r bobl rydych yn byw gyda nhw. Mae hawl gan bob person i fyw yn y ffordd maen nhw ei heisiau a chael preifatrwydd yn eu cartref eu hun. Dylech ymddwyn tuag at eich cyd-letywyr yn y ffordd rydych yn disgwyl iddynt ymddwyn tuag atoch chi
  • Pan fyddwch yn rhannu cartref gyda phobl eraill, y peth pwysicaf yw cyfathrebu. Os oes rhywbeth sy'n eich poeni chi, dywedwch wrth eich cyd-letywyr. Nid oes rhaid i hyn arwain at ddadl os ydych yn siarad â nhw mewn ffordd onest a digyffro. Ceisiwch ddeall eu barn nhw hefyd
  • Os oes problemau gennych gyda rhannu eich cartref ac os na allwch siarad â'ch cyd-letywyr na'ch teulu, gallwch ffonio Childline neu'r Samariaid am gyngor a chefnogaeth di-dâl a chyfrinachol neu ymweld â'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth am gyngor ar eich hawliau cyfreithiol

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.