Gwybodaeth » Tai » Digartrefedd » Gadael eich cartref
- Mae gadael eich cartref yn gam mawr, felly gwnewch yn siwr eich bod wedi trefnu lle byddwch yn mynd cyn i chi adael. Gall gadael eich cartref heb unrhyw le i fynd achosi digartrefedd
- Efallai na fyddwch yn credu y gall digartrefedd ddigwydd i chi, ond mae'n effeithio ar filoedd o bobl ifanc o bob cefndir bob blwyddyn yng Nghymru felly peidiwch â mentro symud allan heb unrhyw le i fynd ato
- Yn ôl y gyfraith, ni fedrwch adael eich cartref heb ganiatâd eich rhieni neu'ch gwarcheidwaid hyd nes y byddwch yn 18 blwydd oed. Os ydych yn 16 neu 17, rhaid i chi gael eu caniatâd swyddogol. Os ydych dan 16 oed, nid oes unrhyw hawl gennych adael eich cartref. Ond os ydych yn anhapus iawn, mae yna bobl y gallwch siarad â nhw a chael cymorth oddi wrthynt
- Wrth gwrs, os teimlwch ei bod hi'n anniogel aros yn eich cartref, dylech geisio cymorth ar unwaith. Gwelwch yr adran TRAIS YN Y CARTREF am gyngor. Cofiwch, os ydych yn fenyw sy'n dioddef o drais teuluaidd, gall tai noddfa i ferched gynnig llety i chi mewn argyfwng
- Mae dod o hyd i lety yng Nghymru yn anodd iawn, felly peidiwch â gadael eich cartref hyd nes bod rhywle arall i chi fynd ato
- Cofiwch, ni allwch gael tenantiaeth hyd nes eich bod yn 18 mlwydd oed, felly os ydych dan 18 oed, fedrwch chi ddim rhentu rhywle i fyw felly bydd rhaid i chi wneud trefniadau eraill. Os ydych yn cael tenantiaeth, sicrhewch y gallwch fforddio'r blaendal cyn i chi lofnodi unrhyw beth. Mae hi bob amser yn well cynilo arian cyn gadael fel bod arian wrth gefn gennych ar gyfer yr wythnosau neu fisoedd cyntaf ar ôl i chi adael eich cartref
- Os ydych yn bwriadau gadael eich cartref heb unrhyw le i fynd ato, ffoniwch eich awdurdod lleol. Os ydych dan 18 oed, mae'n rhaid iddynt ddod o hyd i lety i chi, ond efallai y byddant yn cymryd cryn dipyn o amser, felly ceisiwch beidio â symud hyd nes eu bod wedi sicrhau llety ar eich cyfer
- Ystyriwch eich rhesymau dros adael eich cartref a cheisiwch beidio â gwneud penderfyniadau 'yn y fan a'r lle'. Efallai y byddwch yn difaru gwneud hynny. Mae gadael eich cartref yn rhywbeth y mae'n rhaid i chi feddwl amdano'n ofalus. Fyddwch chi ddim am ddychwelyd adref yn siomedig ychydig o wythnosau yn hwyrach
- Ystyriwch eich dyfodol hirdymor. Er enghraifft, fedrwch chi ddim cysgu ar soffa ffrind am byth a beth fydd yn digwydd pan symudwch o'm r fan honno?
- Os ydych am symud allan oherwydd chwalu neu ddadlau yn y teulu, ceisiwch siarad â'ch teulu'n gyntaf. Efallai y gallwch ddatrys y broblem gyda'ch gilydd. Os teimlwch na fedrwch siarad â nhw, gall gwasanaethau cyfryngu yng Nghymru helpu. Er enghraifft, mae Llamau yn wasanaeth cymodi sy'n rhoi cymorth i bobl 16 a 17 oed a'u teuluoedd i ddatrys gwrthdaro neu ddod o hyd i lety, os nad yw'n bosib iddynt ddychwelyd neu aros yn y cartref. Darllenwch y manylion cyswllt isod am ragor o wybodaeth
- Os ydych yn ystyried gadael eich cartref, dyma restr o'r pethau y dylech feddwl amdanynt cyn gwneud penderfyniad
- Lle fyddwn i'n mynd? Rhaid bod gennych gynllun hirdymor o le fyddwch yn byw
- Sut fyddwn i'n dod o hyd i rywle i fyw?
- Fedra i rentu rhywle? Alla i fforddio rhentu?
- Allai i rannu llety gydag unrhyw un?
- Oes hawl gen i gael cymorth i ddod o hyd i lety?
- Sut fyddwn i'n talu am lety?
- Sut fyddwn i'n talu am fwyd, dillad, a biliau egni, dwr a threth cyngor?
- Oes gen i arian wrth gefn?
- Pam ydw i am adael fy nghartref? Alla i ddatrys y broblem?
- Sut fydd byw ar fy mhen fy hun yn effeithio ar fy mywyd?
- A yw'n bosib y byddwn i'n mynd yn ddigartref?
- Peidiwch â mentro gadael eich cartref os nad oes gennych rywle i fyw. Os ydych chi'n bryderus, siaradwch â'ch teulu neu'ch gofalwyr neu alwch linell gymorth fel Childline, a all gynnig cyngor a chefnogaeth