Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Tai » Digartrefedd » Ceiswyr Lloches

  • Mae ceisydd lloches yn rhywun sy'n dod i'r DU, sy'n dianc rhag erlid, poenydio neu ryfel yn eu gwlad eu hun yn aml. Maen nhw'n parhau i fod yn geisydd loches tra bod ei ymgais i fyw yn y wlad yn cael ei ystyried gan y Swyddfa Gartref
  • Mae ceiswyr lloches yn debygol o fynd yn ddigartref oherwydd gallant gael problemau wrth chwilio am lety oherwydd rheolau'r gyfraith. Mae eu hawl i gael tai cyhoeddus, budd-daliadau lles a swyddi wedi'u cyfyngu
  • Nid oes hawl ganddynt dderbyn budd-daliadau mwyach, ond mae'r Swyddfa Gartref wedi sefydlu adran newydd o'r enw Gwasanaeth Cefnogi Ceiswyr Lloches Cenedlaethol (NASS), sy'n gyfrifol am gyllid a thai ceiswyr lloches. Mae'n darparu cefnogaeth i geiswyr lloches yn y DU nad ydynt yn derbyn gwasanaethau lles gan ddefnyddio system talebion a swm bach o arian bob wythnos
  • I wneud cais am gefnogaeth yr NASS, rhaid llenwi ffurflen NASS1. Mae'r rhain ar gael o Ganolfannau Ymsefydlu neu Wasanaethau Un Stop. Cysylltwch â Chyngor Ffoaduriaid Cymru i ddod o hyd i'ch canolfan agosaf neu i ofyn unrhyw gwestiynau
  • I fod yn gymwys i gael cefnogaeth yr NASS, rhaid i chi fodloni'r meini prawf isod:
    • Rydych wedi gwneud cais am loches cyn gynted ag sy'n weddol ymarferol (er enghraifft gwnaethoch gais am loches yn y porth y cyrhaeddoch ynddo)
    • Rydych mewn angen, hynny yw nid oes ffordd gennych gefnogi eich hun
    • Nid ydych dan 18 oed (nid ydych yn blentyn dan oed heb gwmni)
  • Os nad oes gennych unrhyw le i fynd a dim ffordd o dalu am rywle i aros, fel arfer cewch eich gosod mewn llety argyfwng tra bod eich cais yn cael ei ystyried. Darperir bwyd ac angenrheidiau sylfaenol
  • Cyfnod prosesu ceisiadau NASS yw saith i ddeng niwrnod. Hefyd, dylech ystyried yr hyn y byddwch yn ei wneud os bydd eich cais NASS yn aflwyddiannus a chwilio am opsiynau llety eraill cyn gynted â phosib. Dyma'r ffordd orau o osgoi mynd yn ddigartref
  • Os ydych yn ceisio lloches yng Nghymru, dylech wneud cais i'r Swyddfa Gartref, sy'n gyfrifol am faterion lloches yng Nghymru a Lloegr

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.