Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Tai » Byw yn eich cartref newydd a'i gynnal » Cymdogaethau a'r gymuned

  • Pan fyddwch yn symud mewn i dy newydd, efallai y byddwch yn symud i gymdogaeth newydd hefyd
  • Mae'n bosib y byddwch yn teimlo'n ddigalon i ddechrau oherwydd efallai na fyddwch yn adnabod unrhyw un neu'n gwybod lle mae popeth wedi'u lleoli
    Ffordd dda o ddod i adnabod eich cymdogaeth yw dod i adnabod eich cymdogion. Mae cyflwyno'ch hunan yn ffordd dda o wneud ffrindiau ac fel arfer byddant yn hapus i roi rhagor o wybodaeth i chi am yr ardal, fel lle mae'r siop agosaf ac ar ba ddiwrnod y caiff y biniau eu casglu
  • Os ydych am gymryd rhan yn y gymuned leol, dylech ddarganfod beth sy'n digwydd yn yr ardal. Gallwch edrych mewn ffenestri siopau lleol, y llyfrgell neu'r ganolfan gymunedol leol am hysbysebion digwyddiadau yn eich ardal. Efallai y byddwch am ymuno â dosbarth ymarfer corff, grwp cymdeithasol, grwp mamau a phlant bach, grwp eglwys neu hyd yn oed glwb llyfrau. Mae hon yn ffordd dda o wneud ffrindiau a dysgu rhagor am y gymuned rydych yn byw ynddi
  • Mae Cynlluniau Gwarchod y Gymdogaeth ('Neighbourhood Watch') hefyd yn ffordd dda o gyflwyno'ch hunan i'ch cymuned a sicrhau bod rhywun yn cadw llygad arnoch chi a'ch cartref
  • Bydd eich cymdogion yn rhan fawr o'ch bywyd yn y gymuned felly mae'a n bwysig cyd-dynnu â nhw. Cofiwch barchu'ch cymdogion a cheisiwch beidio â bod yn swnllyd nac aflonyddgar
  • Os ydy'ch cymdogion yn swnllyd, ceisiwch drafod hynny gyda nhw mewn ffordd barchus. Fel arfer dyw pobl ddim yn sylweddoli faint o swn maen nhw'n ei greu a byddan nhw'n stopio pan fydd rhywun un gofyn iddyn nhw wneud hynny. Os yw'r broblem yn parhau, cadwch gofnod o'r swn ac o sut y mae'n effeithio arnoch chi a cheisiwch ysgrifennu at eich cymydog yn esbonio'ch pryderon. Os na fydd gwelliant, cysylltwch ag Asiantaeth Iechyd yr Amgylchedd am gyngor. Bydd y rhif ffôn gan eich cyngor lleol
  • Os ydych chi neu'ch cymydog yn denant, cysylltwch â'r landlord i gwyno

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.