Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd Rhywiol » Organau cenhedlu merch
Yn yr Adran Hon
Mae yna wahanol rannau i organau cenhedlu merch.
Ar y tu allan, mae:
- Y gweflau allanol (labia majora), sy’n gorchuddio’r clitoris ac sy’n ymestyn yn ôl i ychydig o flaen yr anws
- Mae’r gweflau mewnol (labia minora) yn ymuno yn y tu blaen mewn lwmpyn cigog bach o’r enw clitoris. Ei bwrpas yw rhoi pleser rhywiol
- Gall lliw’r gweflau mewnol amrywio o binc ysgafn i frown tywyll
- Gall y gweflau allanol neu fewnol fod yn fwy na’i gilydd. Mae hyn yn berffaith normal
Ar y tu mewn, mae:
- Y fagina a ddefnyddir i gael rhyw ac i atgenhedlu
- Yr wrethra, sy'n pasio dwr
- Yr hymen, sef croenyn sy’n gorchuddio’r fagina - mae hwn wedi’i gynllunio i dorri pan fydd gwyryf yn cael rhyw am y tro cyntaf. Fodd bynnag, mae’n bosib y bydd yr hymen yn torri cyn hynny, yn ystod chwaraeon er enghraifft.
- Gall hyn achosi ychydig bach o waedu ond mae hynny’n berffaith normal
- Ceg y groth, sef y darn sy’n arwain i’r fagina
- Dau diwb ffalopaidd, sy’n cysylltu ofarïau a chroth y ferch
- Dau ofari sy’n cynhyrchu wyau
Profion serfigol
- Prawf a gynigir i bob merch 20 oed a hyn, bob tair i bum mlynedd, yw prawf serfigol. Mae hyn yn helpu i weld yr arwyddion rhybudd cyn i ganser ceg y groth ddatblygu
- Gallan nhw fod yn anghyfforddus ond dydyn nhw ddim yn brifo, ac maen nhw'n hanfodol i ddatgelu celloedd canser a chael triniaeth gynnar
- Siaradwch â’ch Meddyg Teulu neu’r clinig cynllunio teulu i gael cyngor a gwybodaeth am y weithdrefn
- Peidiwch â gohirio cael prawf serfigol; mae’n rhy bwysig
