Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd Emosiynol a Meddyliol » Hunanladdiad
Yn yr Adran Hon
Mae stigma yn aml yn gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl sy'n aml yn atal pobl rhag gofyn am gymorth. Mae gan bobl gywilydd yn aml o siarad am eu problemau iechyd meddwl gyda ffrindiau neu deulu. Weithiau efallai nad ydynt yn dymuno gofyn am gymorth proffesiynol am broblemau iechyd meddwl oherwydd eu bod yn poeni am beth mae pobl eraill yn ei feddwl amdanynt.
Mae llawer o resymau eraill y gall rhywun fod yn meddwl am hunanladdiad, er enghraifft cael eu bwlio, colli ffrind neu berthynas. Mae'n fwy tebygol hefyd i'r rheiny sy'n dioddef o broblem/au iechyd meddwl, a rhai sydd â phroblem cyffuriau neu alcohol neu salwch corfforol tymor hir fod yn cael syniadau am hunanladdiad.
Ar gyfartaledd mae 300 o bobl yn marw drwy hunanladdiad bob blwyddyn yng Nghymru¹.
Os ydych yn meddwl eich bod yn adnabod rhywun a all fod yn meddwl am hunanladdiad dilynwch y camau hyn
- gofynnwch iddynt a ydynt yn meddwl am hunanladdiad
- gwrandewch arnyn nhw (heb farnu)
- cysurwch nhw a rhowch wybodaeth iddynt
- anogwch y person i gael cymorth a chefnogaeth
- anogwch y person i ddefnyddio strategaethau hunangymorth
Os ydych yn cael meddyliau am hunanladdiad siaradwch â rhywun, gallai hwn fod yn ffrind, aelod o'r teulu neu swyddog proffesiynol (e.e. y Samariaid, eich meddyg). Cofiwch mai'r rhan galetaf yw dechrau'r sgwrs, wedi i chi wneud hyn bydd yn mynd yn haws. Rhowch gynnig ar rai strategaethau i helpu eich hun fel ymarfer, gweithio ar hobi, darllen llyfrau hunangymorth, gofyn am gyngor ar y rhyngrwyd.
