Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd Emosiynol a Meddyliol » Anhwylderau Bwyta

Gall unrhyw un ddatblygu anhwylder bwyta er y bydd yn fwy tebygol o ddigwydd mewn merched ifanc 15-25 oed ac effeithir ar dros 1.1 miliwn o bobl yn y DU yn uniongyrchol gan anhwylder bwyta¹.

Mae'r ymadrodd anhwylder bwyta yn ymdrin ag ystod eang o broblemau gyda bwyd, gan gynnwys newynu (anorecsia), a bwlimia a bwyta mewn hyrddiau. Mae'r rhesymau a'r achosion yn amrywiol ac yn gymhleth.

Mae anhwylderau bwyta yn aml ond nid bob amser yn gysylltiedig â delwedd negyddol o'r corff a hunan-barch isel. Gall hefyd fod yn ymdrech i gael rheolaeth yn ôl pan fo'r person wedi bod mewn sefyllfa lle cymerwyd rheolaeth oddi arnynt.

‘Anorexia Nervosa'

  • Mae'r rhai sy'n dioddef yn ofni ennill pwysau, maent yn teimlo'n dew hyd yn oed os ydynt wedi colli cymaint o bwysau fel bod hynny yn dod yn amlwg i bobl eraill.
  • Efallai y byddant yn newynu eu hunain drwy fwyta cyfansymiau bach o fwyd yn unig.
  • Maent yn aml yn cuddio bwyd, yn dilyn cynlluniau cymhleth i osgoi bwyd ac i ymddangos yn drymach nag y maent.
  • Gall rhai esgus bod wedi bwyta pan nad ydynt wedi gwneud hynny
  • Gallant ymarfer yn galed, defnyddio carthyddion (‘laxatives') neu wneud eu hunain yn sâl er mwyn colli mwy o bwysau.
  • Gall mislif merch stopio neu beidio â dechrau o gwbl.
‘Bulimia Nervosa'
  • Gallant edrych yn dew neu o dan bwysau ac mae'n aml yn anodd ei ddarganfod. Gallant fod yn cael anhawster mawr i reoli eu bwyta weithiau gan fwyta i reolau caeth neu gael cyfnodau o fwyta'n afreolus.
  • Mae'r bwyd y maent yn ei fwyta yn aml yn uchel mewn calorïau, braster neu garbohydradau. Wrth i rywun ddechrau teimlo'n llawn, gall teimladau o gywilydd ac euogrwydd eu llethu. Y teimladau hynny sy'n sbarduno'r angen i garthu.
  • Gall bwyta afreolus a chwydu yn barhaus wneud niwed difrifol i'r corff. Gall defnydd rheolaidd o garthyddion arwain at glefyd y coluddion a gall diffyg mwynau hanfodol arwain at fethiant yr organau a marwolaeth.

Mae anhwylderau bwyta yn datblygu yn gymharol araf, gyda'r ymddygiadau yn mynd yn fwyfwy cymhleth. Mae'n bwysig cael cefnogaeth cyn gynted â phosibl. Gall triniaeth gynnwys gofal mewn ysbyty, triniaeth gan Feddygon Teulu, dietegyddion, a hunangymorth. Mae cefnogaeth gan ffrindiau a theulu yn bwysig iawn.

¹Beat

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.