Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Gwasanaethau Iechyd » Rhoddion

Cerdyn rhoddwr

  • Mae cardiau rhoddwyr ar gael yn eang drwy feddygfeydd, fferyllwyr a chyfleusterau iechyd eraill
  • Trwy lofnodi a chario cerdyn rhoddwr, fe fydd eraill yn gwybod eich bod chi am roi rhai o’ch organau neu bob un ohonyn nhw os byddwch chi’n marw
  • Ymhlith yr organau y gallwch chi eu rhoi mae’r galon, yr ysgyfaint, y pancreas, yr arennau, y coluddyn bach a’r iau. Gellir hefyd rhoi meinweoedd, fel y cornbilennau, y croen, asgwrn a falfiau’r galon
  • Bob blwyddyn, bydd mwy na 400 o bobl yn marw tra’n aros am drawsblaniad oherwydd bod yna brinder rhoddion organau
  • Mae mwy na 6,000 o bobl yn y DU yn brwydro i ymdopi â salwch difrifol tra’n aros i drawsblaniad gyrraedd mewn pryd
  • Gallwch chi egluro’ch dymuniadau ar eich cerdyn rhoddwr neu gofrestru â GIG ar-lein (gwelwch y cyswllt isod)
  • Mae’n dal i fod yn bwysig rhoi gwybod i bobl eraill am eich dymuniadau, hyd yn oed os byddwch chi’n cario’ch cerdyn bob amser
  • Gallwch chi ddod yn rhoddwr waeth beth yw’ch oed

Rhoi gwaed

  • Gallwch chi roi gwaed hyd at deirgwaith y flwyddyn os ydych chi’n 17 oed neu’n hyn
  • Gall gwaed sydd wedi’i roi helpu i achub bywydau pobl eraill, gan gynnwys eich teulu eich hun
  • Mae’n cymryd rhyw 10 munud ac nid yw’n brifo
  • Efallai y byddwch chi’n teimlo ychydig yn benysgafn neu’n flinedig ond ni fydd yr effeithiau’n para’n hir
  • Bydd eich corff eich hun yn creu digon o waed i wneud iawn am y gwaed rydych chi wedi’i roi, a hynny cyn pen diwrnodau
  • I gael manylion lleoedd i roi gwaed, ewch i wefan Gwasanaeth Gwaed Cymru isod

Rhoddion eraill

  • Mae'n bosib hefyd rhoi wyau a sberm i helpu parau anffrwythlon i gael plant
  • Mae’n bosib hefyd rhoi mêr esgyrn i helpu pobl â chyflyrau fel lewcemia

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.