Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Gwasanaethau Iechyd » Llyagid

Profion llygaid

  • Fe ddylech chi gael profion llygaid rheolaidd hyd yn oed os nad ydych chi’n dioddef o unrhyw broblemau. Gall profion rheolaidd ddwyn sylw at afiechyd llygaid fel glawcoma cyn iddo effeithio ar eich golwg. Gall hefyd ddwyn sylw at broblemau iechyd eraill fel diabetes
  • Un diben profion llygaid yw cael sbectol, ond mae’n fwy na hyn; y diben pennaf yw cadw’ch llygaid yn iach
  • Mae profion llygaid yn ddi-boen a byddan nhw’n cymryd oddeutu 30 munud fel arfer
  • Gallwch chi ddewis optegydd (optometrydd) cofrestredig o’r Tudalennau
  • Melyn neu www.yell.com neu ffoniwch eich Awdurdod Iechyd lleol
  • Mae profion llygaid GIG yn rhad ac am ddim os ydych chi:
    • Dan 16
    • Dan 19
    • Yn dal i fod mewn addysg amser llawn
    • Ar Gymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith neu Lwfans Anabledd
    • Yn rhannol ddall neu wedi’ch cofrestru yn ddall
    • Yn dioddef o glawcoma neu diabetes
  • Gallwch chi hefyd gael talebau GIG ar gyfer sbectol a lensys cyffwrdd, a gallwch ddefnyddio’r rhain tuag at gost unrhyw optegydd. Bydd eich Meddyg Teulu neu’r ysbyty yn rhoi’r rhain ichi os oes eu hangen
  • Os nad ydych chi’n gymwys i gael triniaeth yn rhad ac am ddim, fe fydd prawf llygaid GIG yn costio £15.01
  • Mae profion llygaid preifat yn amrywio o £17 i £30, felly gwnewch ychydig o ymchwil i gael y fargen orau

Llawdriniaeth llygaid â laser

  • Mae llawdriniaeth llygaid â laser yn defnyddio laser i gywiro hir olwg neu olwg byr
  • Mae yna nifer o glinigau llygaid ar y stryd fawr sy’n defnyddio laser, ond gwnewch yn siwr mai meddyg profiadol sy’n eich trin, neu os gallwch, defnyddiwch lawfeddyg sydd wedi’i gymeradwyo ichi
  • Er mai triniaeth gyflym a syml yw hon, fe all arwain at gymhlethdodau fel ecstasia cornbilennog (pwysau hylif yn cynyddu ar y llygad), llygaid sych neu broblemau â’ch golwg yn y nos. Mewn rhai achosion, gall hefyd achosi i'r golwg waethygu.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.