Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Camddefnyddio Sylweddau » Tawelyddion

  • Mae tawelyddion ar gael ar nifer o wahanol ffurfiau fel pils, tabledi a chwistrelliadau. Cyffuriau presgripsiwn ydyn nhw sy’n cael eu defnyddio i drin iselder, methu â chysgu a phryder. Ymhlith yr enwau eraill arnyn nhw mae downers, eggs, rugby balls a benzos.
  • Mae modd tynnu’r hylif o Temazepam i’w chwistrellu, a bydd rhai pobl yn defnyddio hwn yn lle heroin.
  • Effeithiau tawelyddion yw arafu’r corff, gwneud i’r defnyddiwr deimlo’n ddigyffro ac yn dawel ei feddwl, a gall dosys mawr beri i’r defnyddiwr gysgu.
  • Mae’n bosib dod yn gaeth i dawelyddion ac mae Benzos yn gaethiwus iawn.
  • Ymhlith y risgiau mae:
    • Gall rhai mathau o’r cyffuriau yma achosi i’r defnyddiwr golli ei gof am gyfnod byr
    • Gall chwistrellu hylif o Temazepam flocio’r gwythiennau a’i gwneud yn angenrheidiol torri breichiau neu goesau i ffwrdd, ac mae yna beryglon difrifol wrth chwistrellu tabledi a phils gel sydd wedi’u mathru
    • Ymhlith effeithiau diddyfnu mae cur pen difrifol, dryswch, pryder a chyfog, ac os ydych chi wedi bod yn cymryd llawer ohonyn nhw yna gall hyn achosi pyliau o banig a ffitiau pan fyddwch chi’n stopio cymryd tawelyddion
  • Mae tawelyddion yn gyffuriau presgripsiwn ond maen nhw’n gyffuriau dosbarth C o ran y ddeddf camddefnyddio cyffuriau.
  • Mae’n anghyfreithlon meddu ar bensodiasepinau heb bresgripsiwn a gall meddu arnyn nhw heb awdurdod olygu bwrw dedfryd yn y carchar am hyd at 2 flynedd a faint fynnan nhw o ddirwy.
  • Gall cyflenwi tawelyddion olygu bwrw dedfryd yn y carchar am hyd at 14 mlynedd a faint fynnan nhw o ddirwy.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.