Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Camddefnyddio Sylweddau » Steroidau

  • Cyffuriau presgripsiwn yw steroidau anabolig sy’n cael eu defnyddio i drin anaemia a gwendid yn y cyhyrau. Nid ydyn nhw yr un fath â steroidau eraill sy’n cael eu defnyddio i drin problemau fel asthma ac ecsema. Enwau eraill ar steroidau anabolig yw Deca-Durabolin, Dianabol a Stanozolol, sef yr enwau masnach arnyn nhw. Gall steroidau anabolig fod yn dabledi neu yn hylif i’w chwistrellu.
  • Bydd rhai athletwyr a chorff-feithrinwyr yn defnyddio’r math yma o steroid oherwydd ei briodweddau gwella perfformiad.
  • Ymhlith effeithiau eraill y cyffuriau yma mae gwneud i’r defnyddiwr hyfforddi’n galetach ac adfer yn gyflymach o ymarfer corff caled, yn ogystal â’i wneud yn fwy ymosodol a helpu i adeiladu màs cyhyrau os byddan nhw’n cael eu defnyddio mewn rhaglen ymarfer corff caled.
  • Er na fydd y corff yn dod yn gaeth i steroidau anabolig, pan fyddwch chi’n rhoi’r gorau i’w defnyddio fe allwch chi ddod yn isel ac yn flinedig gan ei bod yn bosib bod eich meddwl wedi dod i ddibynnu arnyn nhw.
  • Ymhlith y risgiau mae:
    • Yn achos dynion, fe allech chi dyfu bronnau, cael problemau â chodiad, fe allai’ch ceilliau grebachu ac fe allech chi ddod yn anffrwythlon a dechrau cael acne
    • Yn achos merched, fe allech chi gael problemau â'ch misglwyf, tyfu blew ar eich wyneb, fe allai'ch bronnau grebachu ac fel allai'ch llais ddyfnhau
    • Os byddwch chi’n cymryd steroidau anabolig pan rydych chi’n ifanc, fe allen nhw eich atal rhag tyfu yn iawn
    • Ymhlith yr effeithiau eraill mae eich hwyliau yn mynd i fyny ac i lawr, dryswch, pwysedd gwaed uchel a thrafferth cysgu
  • Mae Steroidau Anabolig yn gyffuriau presgripsiwn dosbarth C ac nid ydyn nhw’n anghyfreithlon.
  • Mae’n anghyfreithlon meddu ar steroidau anabolig a’u mewnforio i’w cyflenwi i eraill, gan gynnwys ffrindiau, a gall olygu bwrw dedfryd yn y carchar am hyd at 14 mlynedd a faint fynnan nhw o ddirwy.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.