Gwybodaeth » Iechyd » Camddefnyddio Sylweddau » LSD
- Cyffur rhithbeiriol yw LSD ac er y gall ddod ar ffurf pelennau bychain neu hylif, fel arfer bydd yn cael ei werthu ar ffurf sgwariau bychain o bapur. Mae yna nifer o enwau eraill arno gan gynnwys asid, cheer a trips.
- ‘Trip’ yw’r enw ar yr effaith o gymryd LSD, a gall y trip fod yn dda neu’n ddrwg. Gall gymryd hyd at awr i’r trip ddechrau a gall bara am 12 awr.
- Nid yw LSD yn gaethiwus.
- Ymhlith y risgiau mae:
- Gall trip gyflymu neu arafu amser a symudiadau’r corff
- Er y gall trips wneud i bobl deimlo’n hapus gallan nhw achosi panig a bod yn ddryslyd ac yn frawychus
- Os oes gennych chi broblemau iechyd meddwl fe all LSD eu gwaethygu
- Os byddwch chi’n cymryd LSD pan rydych chi mewn hwyliau drwg, fe all achosi ichi wneud niwed i chi’ch hun
- Mae LSD yn gyffur dosbarth A felly mae’n anghyfreithlon meddu arno, ei rannu am ddim neu ei werthu
- Gall meddu ar LSD olygu bwrw dedfryd yn y carchar am hyd at saith mlynedd, a gall ei gyflenwi olygu dedfryd oes a faint fynnan nhw o ddirwy