Gwybodaeth » Cyflogaeth a Hyfforddiant » Gwahanol ffyrdd o weithio
Yn yr Adran Hon
Mae nifer o ddewisiadau gwaith y gallwch ddewis ohonynt, gan gynnwys gweithio amser llawn, yn rhan amser, rhannu swydd ac oriau gwaith hyblyg.
Mae rhai cyflogwyr (yn arbennig rhai mwy) bellach yn fwy hyblyg am drefniadau gwaith, fel y gallwch weithio oriau neu ddyddiau i weddu i’ch ffordd o fyw neu eich ymrwymiadau teuluol. Enghraifft o hyn yw dechrau gwaith am 8.00am a gorffen am 4.00pm yn hytrach na gweithio diwrnod gwaith arferol 9.00am tan 5.00pm.
Gall unrhyw un ofyn i’w cyflogwr am drefniadau gwaith hyblyg, ond yn ôl y ddeddf, mae gan unrhyw un sy’n ofalwr neu sydd â phlant o dan 16 oed hawl i ofyn i gyflogwyr am oriau hyblyg.
Efallai y byddwch yn gallu gweithio o’r cartref neu rannu swydd gyda gweithiwr arall, mae hyn yn digwydd pan fo’r ddau ohonoch yn cyflawni’r swydd yn rhan amser gan weithio dyddiau gwahanol o’r wythnos.
Mae rhai pobl yn dewis bod yn hunangyflogedig, yn arbennig os ydynt yn dechrau eu busnes eu hunain neu fod ganddynt waith ar eu liwt eu hun. Gweithiwr ar ei liwt ei hun yw unigolyn sy’n gweithio iddo’i hun yn gwerthu’r gwaith a wna i gyflogwyr heb ymrwymiad gwaith tymor hir. Mae gweithwyr ar eu liwt eu hun yn dda i gyflogwyr sydd angen pethau arbennig i gyflawni prosiect neu swydd ond nad oes ganddynt weithwyr gyda’r sgiliau penodol hynny.
Y manteision o weithio ar eich liwt eich hun a hunangyflogaeth yw'r rhyddid i ddewis eich oriau gwaith, bod yn fos arnoch chi eich hun ac weithiau ennill mwy o arian. Yr anfanteision yw bod ag incwm afreolaidd, dim gwyliau taledig na thâl salwch, talu eich cyfraniadau treth ac yswiriant gwladol eich hun ac anhawster gyda chynllunio ymlaen gyda’ch arian, yn arbennig os ydych yn dechrau arni.
Sefydliadau
-
The Site - Workers Rights
Information about workers rights
