Gwybodaeth » Cyflogaeth a Hyfforddiant » Bod mewn Cyflogaeth » Slipiau Cyflog
- Yn ôl Deddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993, mae gennych chi hawl i gael datganiad cyflog manwl bob tro rydych chi'n cael eich talu.
- Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'ch cyflogwr roi manylion eich cyflog ichi yn ysgrifenedig, gan gynnwys eich cyflog gros (h.y. y swm cyn unrhyw ddidyniadau) a chyflog net (h.y. yr hyn sy'n weddill ar ôl didyniadau). Dylai hefyd restru faint sy'n cael ei ddidynnu ar gyfer Treth Incwm, Yswiriant Cenedlaethol, cynlluniau pensiwn, tanysgrifiadau i undebau ac ati.
- Efallai y bydd eich slip cyflog hefyd yn dangos faint o dreth rydych chi wedi'i dalu hyd yma yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol, a faint rydych chi wedi'i ennill.
- Byddwch chi hefyd yn cael y wybodaeth yma ar ddiwedd y flwyddyn ariannol (h.y. ym mis Ebrill) mewn ffurflen y bydd eich cyflogwr yn ei pharatoi. P60 yw'r enw ar hon. Mae hon yn ffurflen bwysig i gyfeirio ati yn y dyfodol, felly cadwch hi'n ddiogel. Efallai y bydd angen ichi ddangos faint rydych chi wedi'i ennill yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
- Os nad ydych chi'n cael datganiad cyflog manwl, neu os oes amheuaeth yn codi ynghylch yr hyn y dylid ei gynnwys ar eich slip cyflog, gallwch chi fynd â chwyn gerbron Tribiwnlys Diwydiannol (gwelwch ein herthygl ar Orfodi Hawliau yn y Gweithle).