Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Y Celfyddydau Digidol » Cyfathrebu

  • Bydd llawer o bobl yn cyfathrebu trwy ddefnyddio technoleg, ac yn aml byddan nhw’n defnyddio mwy nag un ffurf
  • Mae llinellau ffonau sefydlog yn parhau i fod yn gyffredin iawn yng nghartrefi pobl, ond mae gan y rhan fwyaf o bobl yn y DU ffôn symudol
  • Mae e–bost, negeseua sydyn a siarad dros y rhyngrwyd yn ffyrdd poblogaidd eraill o gyfathrebu
  • Wrth i dechnoleg symud ymlaen, fe fydd yna ddulliau mwy datblygedig o gyfathrebu trwy dechnoleg ar gael
  • Mae risgiau penodol mewn cyfathrebu heb weld rhywun wyneb–yn–wyneb gan ddefnyddio ffôn symudol neu ddefnyddio’r rhyngrwyd – os ydych chi’n sgwrsio â phobl dros y rhyngrwyd neu os cewch alwad neu neges destun o rif anghyfarwydd, peidiwch BYTH â rhoi eich enw go iawn na’ch cyfeiriad nac enw eich ysgol

Ffonau Symudol

  • Defnyddir ffonau symudol i siarad ac anfon negeseuon testun yn bennaf, ond mae modd defnyddio’r rhai mwyaf diweddar gyda’r rhyngrwyd fel bod y defnyddiwr yn gallu manteisio ar amrywiaeth o ddarllediadau a chyfryngau adloniant
  • Mae modd defnyddio ffonau symudol ar gyfer ffotograffiaeth, fideo, radio a cherddoriaeth, gemau, pori’r we a chymwysiadau meddalwedd, anfon negeseuon fideo a sgwrsio
  • Mae nifer o risgiau yn perthyn i ffonau symudol, felly mae’n bwysig bod yn ofalus pan fyddwch chi’n eu defnyddio
  • Mae’n anghyfreithlon defnyddio ffôn symudol tra’n gyrru. Os oes yn rhaid ichi ddefnyddio’ch ffôn symudol, parciwch eich car mewn man diogel cyn gwneud hynny
  • Mae ffonau symudol yn darged cyffredin i ladron – gwnewch yn siŵr bod eich un chi mewn lle diogel

Talu am ffôn symudol

  • Gall ffonau symudol a’r ffioedd sy’n cael eu codi am alwadau fod yn ddrud, felly byddwch yn gall ynglŷn â faint y byddwch chi’n defnyddio’ch ffôn
  • Mae’n rhatach fel arfer i ddefnyddio’ch ffôn i ffonio neu i anfon neges destun fin nos neu ar ben wythnos (’oriau allfrig’)
  • Mae rhai ffonau symudol ar gael ar gontract talu yn fisol, ac eraill yn cael eu defnyddio ar sail talu–wrth–siarad
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dewis y cynllun sy’n addas ar gyfer faint a pha mor aml y byddwch chi’n defnyddio’ch ffôn, a pha wasanaethau y byddwch chi’n eu defnyddio

Contract

  • Rhaid ichi fod dros 18 i fod â chontract yn eich enw chi
  • Mae contract yn gyfreithiol rwymol, felly unwaith y byddwch chi wedi’i lofnodi, byddwch chi’n cael anfoneb bob mis yn ystod cyfnod y contract 
  • Mae sawl gwahanol math o gynllun contract ar gael ichi ddewis ohonyn nhw ar gyfer gwahanol ffonau. Mae pob cynllun yn codi ffioedd gwahanol gan ddibynnu ar hyd eich galwadau ffôn, pa adeg o’r dydd rydych chi’n defnyddio’ch ffôn a pha rwydwaith rydych chi’n ei ddefnyddio
  • I sicrhau’r contract gorau ar eich cyfer chi, siaradwch â chynghorydd ffonau symudol mewn siop
    Talu–wrth–siarad

Talu–wrth–siarad

  • Mae’r dull yma o dalu yn golygu na fyddwch chi’n talu ond am yr hyn y byddwch chi’n ei ddefnyddio, ac ni fyddwch chi’n derbyn bil bob mis
  • Mae ffonau talu–wrth–siarad yn well os ydych chi am gadw rheolaeth ar yr hyn y byddwch chi’n ei wario
  • I ychwanegu credyd ar eich ffôn, gallwch chi ddefnyddio cerdyn talu mewn sawl siop neu ddefnyddio cerdyn credyd sydd wedi’i gofrestru’n barod. Fe fydd rhai rhwydweithiau hefyd yn caniatáu ichi wneud hyn â pheiriant arian parod

Bwlio

  • Mae negeseuon testun yn ffordd rad a llawn hwyl o gyfathrebu, ond gallan nhw hefyd gael eu camddefnyddio i sarhau neu ddifrïo pobl
  • Os byddwch chi’n derbyn unrhyw negeseuon testun sy’n ddifrïol neu sy’n aflonyddu, gallwch chi wneud rhywbeth yn eu cylch – peidiwch â dileu’r neges a gwnewch yn siŵr eich bod chi’n rhoi gwybod i’r heddlu
  • Os byddwch chi’n derbyn unrhyw negeseuon testun sy’n ddifrïol, peidiwch â thrafferthu ateb y sawl sy’n eu hanfon
  • Rhowch wybod i’ch rhwydwaith ffôn symudol hefyd – gall rhai rhwydweithiau eich helpu i ddelio â bwlio

E–bost

  • Mae e–bost (neu bost electronig) yn fodd cyffredin o gyfathrebu’n sydyn dros y rhyngrwyd lle bydd pobl yn anfon ac yn derbyn negeseuon wedi’u teipio
  • Bydd llawer o bobl yn defnyddio e–bost yn yr un ffordd ag y bydden nhw’n ysgrifennu llythyr, ond mae’n ddull llawer cyflymach o gyfathrebu
  • Bydd eich darparwr gwasanaeth rhyngrwyd fel arfer yn cynnig cyfleuster e–bost, neu gallwch chi sefydlu’ch cyfrif e–bost eich hun gyda darparwyr e–bost fel hotmail neu yahoo

Ffysgota

  • Mae ffysgota (phishing) yn air sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio camddefnyddio e–bost i annog pobl i rannu eu manylion personol neu fanylion eu cyfrif banc
  • Mae hyn yn dod yn fwyfwy cyffredin – lle mae anfonwr yr e–bost yn esgus bod yn fanc neu’n gwmni arall sy’n ceisio eich perswadio i ddatgelu gwybodaeth
  • Os byddwch chi’n derbyn e–bost oddi wrth rywun nad ydych chi’n ei adnabod, peidiwch ag ateb, a pheidiwch da chi â rhannu unrhyw fanylion personol neu ariannol

Negeseuo Sydyn

  • Mae negeseuo sydyn yn dod yn ffordd fwyfwy poblogaidd o ’sgwrsio’ dros y rhyngrwyd, ac mae’n gyflymach nag e–bost
  • Mae’n caniatáu ichi weld pwy rydych chi’n eu hadnabod sydd wedi mewngofnodi ar y rhyngrwyd, ac anfon negeseuon sydyn atyn nhw
  • Bydd defnyddwyr system negeseuo sydyn yn creu ’rhestri bydis’ o’u ffrindiau y gallan nhw anfon negeseuon atyn nhw
  • Mae’r ’rhestr bydis’ yn dangos pwy sydd ar–lein
    I ddefnyddio’r cyfleuster yma, fel arfer fe fydd angen ichi lawrlwytho rhaglen i’ch cyfrifiadur

Galwadau llais dros y rhyngrwyd

  • Mae siarad dros y rhyngrwyd yn debyg i ddefnyddio ffôn – gallwch chi wneud galwadau i bobl dros y byd i gyd, ond llawer yn rhatach na galwad ffôn neu alwad ffôn symudol
  • Fe fydd rhai cwmnïau sy’n cynnig y gwasanaeth yma’n codi ffi fisol a bydd eraill yn codi ffi fesul munud
  • I sefydlu’r cyfleuster yma ar eich cyfrifiadur fe fydd angen ichi lawrlwytho rhaglen a defnyddio clustffonau

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.