Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Twrnameintiau a Chystadlaethau Rhyngwladol » Gemau'r Gymanwlad

  • Mae Gemau’r Gymanwlad yn ddigwyddiadau sy’n cwmpasu nifer fawr o chwaraeon gwahanol, ac mae’r athletwyr gorau o’r Gymanwlad Cenhedloedd yn cystadlu
  • Mae’r Gymanwlad Cenhedloedd wedi’i ffurfio o 53 o wladwriaethau sofran annibynnol, a bu bron pob un ohonyn nhw’n gyndiriogaeth yr Ymerodraeth Brydeinig
  • Caiff y Gemau eu cynnal bob pedair blynedd ac mae 71 o dimoedd yn cystadlu
  • Mae gan bob gwlad ym Mhrydain Fawr ei thïm ei hun, sy’n cystadlu ar wahân. Y timoedd hyn yw:–
    • Cymru
    • Lloegr
    • Yr Alban
    • Gogledd Iwerddon
  • Mae timoedd ar wahân o Guernsey, Jersey ac Ynys Manaw yn cystadlu hefyd
  • Mae Gemau’r Gymanwlad yn cynnwys chwaraeon Olympaidd, yn ogystal â chwaraeon a wneir yn draddodiadol yng ngwledydd y Gymanwlad, fel bowliau lawnt, rygbi saith bob ochr a phêl–rwyd.
  • Mae’r chwaraeon yn cynnwys y rhestr ganlynol, ond fe all hynny newid o’r naill dwrnamaint i’r llall. Bydd trefnwyr y Gemau’n penderfynu ar yr hyn i’w gynnwys yn y flwyddyn honno:–
    • athletau
    • gymnasteg
    • seiclo
    • saethyddiaeth
    • badminton
    • paffio/bocsio
    • criced
    • gyrru
    • ffensio
    • hoci
    • judo
    • bowliau lawnt
    • pêl–rwyd
    • rygbi saith bob ochr
    • rhwyfo
    • saethu
    • sboncen
    • nofio
    • tenis bwrdd
    • bowlio deg pin
    • triathlon
    • polo dŵr
    • codi pwysau
    • reslo

A wyddoch chi fod...?

  • Tua 5,000 athletwyr yn mynd i Gemau’r Gymanwlad, sy’n golygu mai dyma un o ddigwyddiadau chwaraeon rhyngwladol mwyaf y byd
  • Dim ond chwe gwlad sydd wedi mynd i Gemau’r Gymanwlad bob tro. Mae Cymru’n un ohonyn nhw.
  • Cafodd y digwyddiad ei gynnal am y tro cyntaf yn 1930, a chafodd ei alw’n Gemau’r Ymerodraeth Brydeinig ar y pryd. Newidiodd yr enw i Gemau’r Ymerodraeth Brydeinig a’r Gymanwlad yn 1954, i Gemau’r Gymanwlad Brydeinig yn 1970, a daeth yn Gemau’r Gymanwlad yn 1978.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.