Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Chwaraeon Gaeaf » Sgïo ac Eirafyrdd

  • Mae sgïo ac eirafyrddio’n dod yn fwyfwy poblogaidd ymhlith pobl ifanc
  • Maen nhw’n fwyaf poblogaidd yn ystod misoedd y gaeaf, rhwng mis Rhagfyr a mis Ebrill, ond gallwch eu gwneud trwy gydol y flwyddyn ar eich llethr sgïo sych lleol
  • Mae sgïo ac eirafyrddio’n tueddu i fod yn gampau costus, felly ffordd dda o ddechrau arnyn nhw yw trwy eich ysgol neu’ch llethr sgïo sych lleol
  • Mae llethrau sych yn cynnig hyfforddiant am ryw £10 i £30 yr awr, a byddan nhw’n darparu’r holl offer cywir ar eich cyfer chi
  • Os ydych yn mynd sgïo neu eirafyrddio ar eira go iawn, bydd rhaid i chi wisgo’r dillad cywir. Dylech chi gadw’n gynnes, gyda digon o haenau, a gwisgo trwser gwrth–ddŵr, o’r enw ’salopettes’ a siaced wrth–ddŵr gynnes hefyd. Mae hefyd yn bwysig i chi wisgo sanau sgïo cywir hefyd. Gallwch brynu’r rhain yn y rhan fwyaf o siopau gweithgareddau awyr agored
  • Bydd angen yr offer cywir arnoch chi hefyd, fel bŵts, sgïau neu fwrdd eira. Bydd nifer o siopau yn y rhan fwyaf o ganolfannau sgïo lle y gallwch logi’r offer cywir

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.