Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Chwaraeon Dwr » Nofio ac Achub Bywyd
Yn yr Adran Hon
- Y pedwar prif ddull o nofio yw: nofio yn eich blaen (front crawl), dull broga, dull cefn a dull rhydd. Mewn cystadlaethau dull rhydd, gall nofwyr ddewis y dull sy’n well ganddynt
- Mae gan y rhan fwyaf o byllau nofio a chanolfannau hamdden lleol glybiau nofio ac achub bywyd y gallwch ymuno â nhw
- Mae achub bywyd yn gymhwyster cydnabyddedig, felly gwnewch yn siŵr fod y person sy’n eich dysgu yn hyfforddwr cymwys
- Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn darparu cyfle i blant a phobl ifanc 16 oed ac iau yng Nghymru i nofio am ddim yn ystod gwyliau’r ysgol. Gwelwch y cyswllt isod i weld lle gallwch nofio am ddim
Nofio Cydamseredig (Synchronised)
- Mae rhwng dau ac wyth o nofwyr yn ffurfio tïm nofio cydamseredig, ac yn perfformio dawns dull bale i gerddoriaeth ac yn cael eu barnu yn ôl eu cydamseriad, symudiadau a rwtïn
Deifio - Mae clybiau deifio mewn llawer o byllau nofio a chanolfannau hamdden a gallwch ymuno â’r rhain
Wrth i chi ddod yn ddeifiwr mwy profiadol, byddwch yn meistroli sgiliau fel trosbennau (somersaults) a thwistiau
