Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Chwaraeon Dan Do » Chwaraeon Bwrdd

Tenis bwrdd

  • Tenis bwrdd yw chwaraeon raced mwyaf y byd – mae tua 2 filiwn o bobl yn chwarae ym Mhrydain yn unig
  • Mae 186 gwlad yn gysylltiedig â’r Ffederasiwn Tenis Bwrdd Rhyngwladol (ITTF)
  • Caiff tenis bwrdd ei chwarae ar fwrdd bach gan ddefnyddio padlau a phêl gau ysgafn
  • Yn anffurfiol, gelwir tenis bwrdd yn ’ping pong’
  • Gellir chwarae un yn erbyn un neu mewn parau. Bydd y gêm yn parhau hyd nes y bydd un chwaraewr yn cyrraedd 11 o bwyntiau
  • Fel arfer bydd tri neu bedwar aelod gan dimau cynghrair lleol, er bod cynghreiriau dau–pob–ochr yn fwyfwy poblogaidd
  • Mae’r gêm polybat wedi’i addasu o denis bwrdd ar gyfer pobl ag anghenion arbennig

Snwcer

  • Dau berson sy’n chwarae snwcer ar fwrdd snwcer mawr gyda chwech o bocedi
  • Fe’i chwaraeir gyda chiw, un bêl wen, 15 o beli coch a chwe phêl lliw, lle mae pob lliw gwahanol yn cynrychioli nifer gwahanol o bwyntiau. Rhaid potio pob un o’r peli coch cyn rhoi cynnig ar botio’r peli lliw
  • Y chwaraewr sydd a’r nifer mwyaf o bwyntiau pan fo pob un o’r peli wedi’u potio sy’n ennill

Pŵl

  • Mae pŵl yn debyg i snwcer, heblaw bod saith pêl coch, saith pêl melyn yn ogystal ag un bêl wen ac un bêl ddu
  • Caiff ei chwarae ar fwrdd llawer llai ac mae’n chwaraeon tafarn poblogaidd

Hoci awyr

  • Mae hoci aer yn gêm i ddau berson sy’n cael ei chwarae ar fwrdd petryalog
  • Mae’r chwaraewyr yn dal baton crwn yn eu dwylo ac yn ei ddefnyddio o guro cnap tuag at gôl y gwrthwynebydd
  • Caiff y gêm ei hamseru a’r person â’r nifer mwyaf o golau sy’n ennill

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.