Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Chwaraeon Awyr Agored » Criced

  • Mae sawl fersiwn o griced, ond yn y fersiwn mwyaf poblogaidd ceir dau dïm o 11 o chwaraewyr. Mae pob tïm yn cymryd eu tro i fatio a bowlio
  • Mae’r tïm sy’n batio yn ceisio sgorio’r nifer fwyaf o rediadau ag sy’n bosib trwy daro’r bêl i rywle o fewn y maes
  • Rhaid i’r tïm sy’n bowlio geisio’u cael nhw allan trwy fowlio tuag at y stwmp criced sy’n sefyll ar naill ochr y wiced
  • Gall y tïm sy’n bowlio gael y person sy’n batio allan trwy daro’r wiced neu drwy ddal y bêl ar ôl iddi gael ei batio a chyn iddi gyrraedd y ddaear
  • Unwaith bod yr holl dïm wedi’u cael allan mae’r timoedd yn newid lle
  • Y tïm â’r nifer fwyaf o rediadau sy’n ennill

Criced y Ddraig / Dragon Cricket (11 oed)

  • Mae hwn yn fersiwn symlach o griced, y mae plant 7–11 oed yn ei chwarae yng Nghymru
  • Ceir dau dïm o bump o bobl ac mae dau set o wicedi gyda marcwyr ar yr ochr er mwyn i’r tïm sy’n batio redeg o’u cwmpas

Kwik Cricket (11 oed)

  • Mae ’Kwik Cricket’ yn fersiwn arall o’r gêm y mae plant hyd at 11 oed yn ei chwarae. Mae’r offer wedi’u gwneud o blastig er diogelwch a gellir addasu’r chwarae yn ôl nifer y chwaraewyr

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.