Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Chwaraeon Awyr Agored » Chwaraeon Rolio
Yn yr Adran Hon
- Gall chwaraeon rolio gynnwys hoci rolio, sglefrio, sglefrfyrddio, socer rolio neu sglefrio cyflymder
Sglefrfyrddio
- Mae sglefrfyrddio ar y ffordd yn gallu bod yn hynod o beryglus ac, yn aml iawn, mae’n anghyfreithlon
- Sicrhewch eich bod yn gwisgo rhywbeth i’ch amddiffyn pan fyddwch yn sglefrio – yn enwedig ar eich pen – ac nid yn unig pan fyddwch yn ddechreuwr – po fwyaf hyder y sglefriwr, gwaethaf fydd y cwymp!
- Mae sglefrfyrddio’n weithgaredd hwyl sy’n hobi ac yn gamp gystadleuol
- Mae sglefrfyrddio’n golygu rolio neu wneud campau gyda sglefrfwrdd
- Mae rhywun sy’n sglefrfyrddio yn cael ei alw’n ’sglefriwr’
- Mae sglefrfyrddio’n gamp eithafol, ac yn ddull o gelfyddyd hefyd oherwydd ei agweddau creadigol – mae sglefrwyr yn dysgu i wneud ’ triciau’ ar eu sglefrfyrddau
- Mae’r rhan fwyaf o sglefrfyrddwyr yn y byd dan 18 oed – a champ i bobl ifanc yw hi yn gyffredinol
- Mae sglefrfyrddio wedi dod yn fwyfwy poblogaidd yng Nghymru, yn enwedig yn Ne Cymru
- Mae’r mannau sglefrio gorau yng Nghymru yn ardal Caerdydd, Caerffili a Chasnewydd, ac mae’r parciau sglefrio gorau yng Nghaerdydd, Porth, Aberbargod a Chasnewydd, fel Skate X a Skateside yng Nghaerdydd a Skate Extreme yng Nghasnewydd. Mae Skate Extreme yn barc sglefrio eithaf enwog yng Nghymru – mae’n bosibl y bydd rhaid i chi giwio am rampiau
- Mae sglefrfwrdd, trycs, olwynion a berynnau yn costio tua £120. Fel arfer, bydd rhaid i chi gael dec newydd bob chwe wythnos – gan ddibynnu ar ba mor aml rydych yn sglefrio – a rhaid ailosod yr olwynion a’r berynnau bob dau neu dri mis, a’r trycs bob blwyddyn
- Mae esgidiau sglefrio’n costio rhwng £40 a £90 – gallwch frifo’ch traed os ydych yn gwisgo’r esgidiau anghywir. Bydd rhaid i chi brynu esgidiau sglefrio newydd os ydych yn sglefrio’n rheolaidd
- Oherwydd bod sglefrfyrddio’n eithaf drud, mae’n ddoeth prynu bwrdd ac esgidiau rhad o siop sglefrio leol os ydych yn rhoi cynnig ar y gamp am y tro cyntaf, rhag ofn nad ydych yn ei mwynhau
Sglefrio rolio
- Mae sglefrio rolio (neu lafnau rolio) yn golygu symud ar wynebau llyfn ar esgidiau rolio – fe’i gwneir am bleser ac fel camp
- Gall fod yn fodd teithio hefyd
- Mae dau fath o esgidiau sglefrio: esgidiau quad ac esgidiau inline
- Mae gan esgidiau quad bedair olwyn – gallwch ddefnyddio’r rhain, er enghraifft, ar gyfer sglefrio rolio hamddenol, hynny yw, yn y parc, ar gyfer hoci quad (gwelwch hoci)
- Mae gan esgidiau inline dair, pedair neu bump olwyn wedi’u trefnu mewn rhes sengl a gallwch eu defnyddio ar gyfer sglefrio hamddenol neu gystadleuol
Sglefrio cyflymder
- Mae sglefrio cyflymder inline yn fath cyflym, poblogaidd a chystadleuol o sglefrio rolio
- Gallwch ei wneud ar rinc dan do neu ar ffyrdd
- Mae gwahanol ddigwyddiadau ym myd sglefrio cyflym cystadleuol, yn cynnwys sglefrio pellter (y marathon er enghraifft), sbrints a threialau amser unigol a thïm
- Er mwyn cymryd rhan mewn sglefrio cystadleuol, gwelwch y cysylltiadau isod
Sglefrio rolio artistig
- Mae sglefrio rolio artistig yn gyfres o ddigwyddiadau sglefrio rolio lle mae pobl yn gwneud ffigyrau, dawnsio neu’n sglefrio mewn dull rhydd fel rhan o berfformiad o flaen barnwyr, naill ai mewn timau neu fel unigolion
- Mae sglefrwyr yn defnyddio naill ai esgidiau quad neu inline, ond mae’r ddau fath hyn o sglefrwyr yn cystadlu mewn digwyddiadau ar wahân fel arfer
- Ar gyfer clybiau sy’n aelodau cyswllt o’r Federation of Artistic Roller Skating, gwelwch y cysylltiadau isod
Hoci rolio (gwelwch hoci)
