Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Arian » Dyled

1. Problem rheoli arian – dyma ble mae ganddynt ddigon o incwm ar gyfer y gwariant hanfodol (bwyd, teithio, rhent/morgais ayyb) ac ymrwymiadau credyd ond maent yn gwario gormod ar eitemau diangen. Dan yr amgylchiadau hyn, mae gofyn am gyngor cyllidebu ac angen lleihau'r swm maent yn gwario ar eitemau gorddewisol fel dillad, bwyta allan ayyb.

2. Problem dyled – dyma ble nad oes ganddynt ddigon o incwm ar gyfer y gwariant hanfodol (bwyd, teithio, rhent/morgais ayyb) ac ymrwymiadau credyd misol. Dan yr amgylchiadau hyn, maent angen chwilio am gyngor gan elusen ddyled genedlaethol (fel National Debtline neu Debt Advice Foundation), fydd yn awgrymu’r ateb fwyaf priodol am eu sefyllfa (bod hynny yn Orchymyn Gweinyddu, Gorchymyn Cymorth Dyled, rheoli Dyled, Methdaliad, Rhyddhad Ecwiti neu Drefniant Gwirfoddol Unigol er esiampl – mae’n gymhleth iawn ac mae’r ateb cywir yn ddibynnol ar faint rwyt ti’n ddyledus, faint sydd gen ti ar gael i dalu’r credydwyr bob mis ac os oes gen ti unrhyw asedau ti eisiau diogelu, fel dy gartref).

  • Dyled yw’r enw ar y sefyllfa pan fydd arnoch chi arian i rywun
  • Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael eu hunain mewn dyled ar ryw adeg yn eu bywyd, boed yn arian y mae ei arnoch chi ar fil cerdyn credyd neu fenthyciad myfyriwr
  • Ni fydd dyled yn dod yn broblem oni bai eich bod chi’n cael eich hun mewn sefyllfa pan mae arnoch chi arian nad ydych chi’n gallu ei dalu yn ôl
  • Os ydych chi mewn dyled dydych chi ddim yn gallu ei thalu yn ôl, y peth pwysicaf yw peidio â chynhyrfu a pheidio ag anwybyddu’r broblem - ni fydd yn diflannu
  • Os oes gennych chi broblemau â dyled, mae’n rhaid ichi wneud rhywbeth i’w datrys cyn gynted â phosib. Mae yna bobl sy’n gallu’ch helpu a digonedd o ffyrdd o’ch helpu i leihau eich dyled
  • Os ydych chi mewn dyled, siaradwch â rhywun. Efallai y bydd o help dweud wrth aelod o’ch teulu neu ffrind a allai eich helpu, neu fe allech siarad â nhw yn y Ganolfan Cyngor ar Bopeth i gael cyngor rhad ac am ddim a chyfrinachol
  • Mae yna wahanol fathau o ddyled, sy’n dibynnu ar eu blaenoriaeth o ran talu’r arian yn ôl

Dyledion â blaenoriaeth

  • Y dyledion â blaenoriaeth yw’r dyledion hynny i’r credydwyr (y bobl y mae arnoch chi arian iddyn nhw) sydd â’r achos cryfaf i fynd â chi i gyfraith os na fyddwch chi’n talu’r arian yn ôl. Maen nhw’n cynnwys:
    • Ad-daliadau morgais - gall y benthyciwr morgais fynd â chi i gyfraith i feddiannu eich cartref
    • Rhent - gall y landlord eich troi allan os oes arnoch chi rhent
    • Treth incwm a TAW - gallwch chi gael eich dyfarnu yn fethdalwr neu gael eich carcharu am beidio â thalu treth incwm neu TAW
    • Dirwyon, fel dirwyon llys yr ynadon am droseddau traffig. Os na fyddwch chi’n talu’r rhain, gall y llys ddefnyddio beilïaid i adfeddiannu eich nwyddau. Os, ar ôl hyn, bod yna symiau rydych chi’n dal heb eu talu, fe allech chi gael eich carcharu
    • Cynhaliaeth, costau cynnal plant, treth cyngor neu ardrethi. Os na fyddwch chi’n talu’r rhain, gall llys ddefnyddio beilïaid i adfeddiannu eich nwyddau. Os, ar ôl hyn, bod yna symiau rydych chi’n dal heb eu talu, fe allech chi gael eich carcharu
    • Dyledion nwy, trydan neu olew - os na fyddwch chi’n talu’r biliau yma mae’n bosib y bydd eich cyflenwad yn cael ei ddatgysylltu
    • Hurbryniant (neu ’gwerthiant amodol’ i roi enw arall arno) - bydd hyn yn ddyled â blaenoriaeth os yw am eitem hanfodol, er enghraifft, os ydych chi wedi hurbrynu car ac mae angen car arnoch chi i fynd i’r gwaith
  • Mae’n bwysig talu unrhyw ddyledion â blaenoriaeth yn ôl yn gyntaf cyn unrhyw ddyledion heb flaenoriaeth

Dyledion heb flaenoriaeth

  • Mae dyledion heb flaenoriaeth yn cynnwys:
    • Arian y mae ei arnoch chi ar gerdyn credyd neu gerdyn siop
    • Arian y mae ei arnoch chi i gatalog
    • Gorddrafftiau a benthyciadau’r banc
    • Budd-daliadau sydd wedi’u gordalu ichi
    • Hurbryniant (neu ’gwerthiant amodol’ i roi enw arall arno) - bydd hyn yn ddyled heb flaenoriaeth os yw am eitemau anhanfodol, fel teledu
    • Arian rydych chi wedi’i fenthyca oddi wrth eich teulu neu ffrindiau
  • Er y gall credydwyr dyledion heb flaenoriaeth fynd â chi i gyfraith os na fyddwch chi’n eu talu, neu anfon y beilïaid i ddelio â chi, ni allwch chi gael eich carcharu

Peidiwch â gadael i ddyled eich digalonni - gwnewch rhywbeth yn ei gylch, a mynnwch help os ydych chi ei angen

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.