Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Amgylchedd » Planhigion ac Anifeiliaid » Anifeiliaid Fferm

  • Anifeiliaid fferm yw unrhyw anifeiliaid sy’n cael eu cadw er mwyn eu defnyddio neu i wneud elw ohonynt
  • Yr anifeiliaid fferm mwyaf cyffredin yw buchod, moch, defaid, ieir, hwyaid a cheffylau
  • Mae Cymru’n enwog am ffermio ac mae yma wartheg a defaid y mae cig ardderchog yn dod ohonynt
  • Mae anifeiliaid gwahanol yn byw ar wahanol fathau o fferm. Er enghraifft, mae ffermydd llaeth fel arfer yn cadw buchod i gynhyrchu llaeth, nid am eu cig
  • Am ragor o wybodaeth, ewch i adran FFERMIO AC AMAETHYDDIAETH ar y wefan hon

Ffermydd Trefol

  • Mae ffermydd trefol yn fwyfwy cyffredin. Mae’r rhain yn ffermydd o fewn dinasoedd mewn mannau llai na ffermydd traddodiadol yn y wlad
  • Yn aml, os ydych yn talu ffi fach, fe fedrwch ymweld â fferm drefol er mwyn gweld y ffordd y maen nhw’n gweithio ac i ddysgu am anifeiliaid. Mae anifeiliaid ffermydd trefol yr un peth ag anifeiliaid ffermydd traddodiadol
  • Yng Nghymru, mae ffermydd trefol yng Nghaerdydd, Abertawe a Chwmbrân

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.