Gwybodaeth » Amgylchedd » Planhigion ac Anifeiliaid » Anifeiliaid Anwes
- Mae gan lawer o bobl ifanc anifeiliaid yn eu cartrefi ac mae’n ffordd dda i ddysgu sut i drin a gofalu am greaduriaid
- Mae angen llawer o ofal a sylw ar anifeiliaid anwes felly rhaid i chi sicrhau bod gennych ddigon o amser i ofalu amdanyn nhw cyn dewis eu cael
- Mae angen llawer o amser ac egni i ofalu am gi neu geffyl, felly gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried hyn cyn penderfynu pa anifail rydych am ei gael
- Fe ddylech hefyd wneud yn siŵr bod y bobl eraill yn eich tŷ yn hapus i chi gadw anifail anwes gan fod angen llawer o le ar rai anifeiliaid ac mae rhai yn gwneud sŵn mawr
- Yr anifeiliaid anwes mwyaf cyffredin yw cathod, cŵn, bochdewion (hamsters), pysgod aur, cwningod ac adar er bod rhai pobl yn cadw anifeiliaid mwy egsotig fel madfallod (’lizards’) neu barotiaid
- Mae deddfau llym yn bodoli ynghylch dod ag anifeiliaid i mewn i Brydain er mwyn eu gwerthu fel anifeiliaid anwes. Os ydych chi’n prynu anifail egsotig rhaid sicrhau bod ganddo’r holl ddogfennaeth angenrheidiol, a gwneud i siŵr na chafodd ei werthu’n anghyfreithlon
- Hefyd, mae’n werth ystyried ei bod hi’n ddrytach cadw anifeiliad sy’n fwy egsotig. Mae angen llawer o le i symud ar ymlusgiaid (’ reptiles’), yn ogystal â lle i fyw sydd wedi’i addasu i weddu i’w hanghenion, a diet arbennig iawn
- Dylech ystyried costau cadw unrhyw anifail anwes. Yn yr un modd â phobl, bydd y rhan fwyaf o anifeiliaid yn mynd yn sâl ar ryw adeg a bydd rhaid iddynt fynd at y milfeddyg, a all fodd yn ddrud
Hefyd, dylech ystyried pris bwyd eich anifail anwes cyn penderfynu ei gael
- Os ydych yn ystyried cael anifail anwes dylech fynd at loches anifeiliaid fel yr RSPCA, neu siop anifeiliaid anwes barchus - gofynnwch i filfeddyg os nad ydych chi’n siŵr. Bydd gwneud hyn yn sicrhau bod eich anifail anwes yn iach a’i fod wedi cael ei drin yn iawn