Gwybodaeth » Addysg » Yn Yr Ysgol 11-16 - Cyflwyniad » Gwaharddiad
Yn yr Adran Hon
- Mae gwaharddiad neu gael eich gwahardd o’r ysgol yn golygu bod yr ysgol yn gorchymyn na fedrwch chi fynychu’r ysgol.
- Gall y Pennaeth wahardd disgybl sy’n torri rheol ysgol bwysig neu’n cyflawni trosedd yn yr ysgol.
- Ystyrir y penderfyniad i wahardd disgybl yn ddifrifol iawn, ac fel rheol, dim ond pan fetho popeth arall y gwneir hyn, pan fyddai caniatáu i’r disgybl aros yn yr ysgol yn peri niwed difrifol i addysg neu les y disgybl neu eraill yn yr ysgol.
- Er bod rhai pobl yn credu bod cael eu gorchymyn i beidio â mynychu’8 r ysgol yn gwireddu breuddwyd, mewn gwirionedd, mae gwahardd yn rhywbeth difrifol iawn i gael ar eich cofnod.
- Gallai cael eich gwahardd olygu eich bod ar eich colled o ran eich addysg, a gallai gyfrif yn eich erbyn os fyddwch chi’n ceisio am swydd neu gwrs yn rhywle arall yn y dyfodol.
Mae yna ddau fath o waharddiad
- Tymor sefydlog - pan fydd disgybl yn cael ei wahardd rhag mynychu’r ysgol am gyfnod penodol. Gallai hyn olygu diwrnodau penodol o’r wythnos neu nifer penodol o ddyddiau, wythnosau neu fisoedd. Ni ddylai cyfanswm cyfnod y gwaharddiadau sefydlog fod yn fwy na 45 diwrnod ysgol mewn blwyddyn ysgol.
- Parhaol - pan fydd disgybl yn cael ei wahardd rhag mynychu’r ysgol honno byth eto.
Mae yna restr safonol cenedlaethol o resymau dros wahardd, sy’n cynnwys:
ymosodiad corfforol
- sarhad ar lafar
- bwlio
- sarhad hiliol
- camymddwyn rhywiol
- camddefnyddio cyffuriau, alcohol neu sylweddau
- difrodi
- lladrata
- camymddwyn neu dorri rheolau’r ysgol yn barhaus
- nid yw achosion unigol o chwarae triwant, anghofio gwaith cartref, gwisgo gemwaith neu dorri rheolau gwisg ysgol yn resymau dros wahardd.
Beth sy’n digwydd os cewch chi’ch gwahardd?
- Mae canllawiau’r Llywodraeth yn nodi’r hyn ddylai ddigwydd pan fydd rhywun yn cael ei wahardd.
- Rhaid i’r Pennaeth gynnal ymchwiliad llawn o’r digwyddiad sydd wedi arwain at waharddiad.
- Rhaid rhoi gwybod i’ch rhieni neu’ch gofalwr yn syth.
- Dylai’ch rhieni neu’ch gofalwr gael llythyr oddi wrth y Pennaeth yn egluro’r rhesymau dros wahardd, p’un a yw’n barhaol neu am ba hyd y bydd yn para a sut y gallan nhw apelio yn ei erbyn os ydyn nhw’n teimlo bod y gwaharddiad yn anghyfiawn.
- Wrth apelio, gall llywodraethwyr yr ysgol gymeradwyo’r gwaharddiad neu orchymyn y gallwch chi ailfynychu’r ysgol.
- Gellir apelio ymhellach i banel lleol.
- Mae’n bwysig apelio cyn gynted â phosib ac o fewn yr amser a nodir yn y llythyr.
- Mae hefyd gan ddisgyblion 11 oed ac yn hŷn yr hawl i apelio yn erbyn gwaharddiad.
- Mae gan bob disgybl sydd wedi’i wahardd yr hawl i leisio barn i Bwyllgor Disgyblu Disgyblion y Corff Llywodraethu a gwrandawiadau’r Panel Apelio Annibynnol. Gall hyn fod ar lafar, yn ysgrifenedig, neu mewn unrhyw fformat ymarferol arall.
- Mae’r dogfennau arweiniad cyfredol yn datgan bod gan y disgybl a’i rieni yr hawl i fynychu gwrandawiad y Panel Apelio Annibynnol a chyflwyno’u hachos, naill ai’n ysgrifenedig neu ar lafar.
Rhagor o wybodaeth a chyngor
- Mae’r Ganolfan Gynghori ar Addysg yn cynnig cyngor dros y ffôn ar waharddiadau o ddydd Llun i ddydd Gwener 2.00pm - 5.00pm Ffôn: 0808 800 0327 www.ace-ed.org.uk. Mae llyfryn dwyieithog "Dweud eich dweud " Canllaw person ifanc i waharddiadau, ar gael gan ACE fel copi caled neu i’w lawrlwytho o’r wefan.
- Mae canllawiau llawn Llywodraeth Cynulliad Cymru ar waharddiadau yng Nghylchlythyr Rhif. 001/2004 Gwahardd o Ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion, sydd ar gael yn http://wales.gov.uk

2 Comments – Postiwch sylw
chrissy-baybee
Rhoddwyd sylw 21 mis yn ôl - 5th August 2010 - 02:28am
ive been kicked out and then i got sents to queens hill PRU but after i left there i went to bettws and got kicked out so im no where now
CLICryan
Rhoddwyd sylw 21 mis yn ôl - 5th August 2010 - 08:16am
@chrissy-baybee
What would you like to do next, given the choice? The new Meic helpline might be able to help you. You can speak by phone, text, email or instant message them. They are open between 12-8pm Monday to Sunday:
Phone: 080880 23456 (free)
Text: 84001 (free)
Email: help@meiccymru.org
IM: www.meiccymru.org
They can advise on what to do if excluded and it's confidential so they won't ask for your name or anything.
Good luck!