Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg » Yn Yr Ysgol 11-16 - Cyflwyniad

Mae’r ysgol yn rhan enfawr o’ch bywyd rhwng 11 ac 16 oed. Yn ystod y cyfnod hwn rydych yn yr hyn a elwir yn system yr ysgol uwchradd ac addysgir ystod o bynciau i chi fel Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth, Celf, Hanes ac Ieithoedd.

O 5 hyd at 16 oed, y gyfraith yw bod plant a phobl ifanc yn derbyn addysg amser llawn.

Mae eich rhieni yn gyfrifol am sicrhau eich bod yn derbyn yr addysg amser llawn hon sy’n addas ar gyfer eich oed a’ch gallu. Os oes gennych anghenion addysgol arbennig, dylech dderbyn cymorth i helpu eich dysgu.

Addysgir rhai pobl ifanc gartref neu mae ganddynt diwtoriaid preifat ond dim ond os yw’r Awdurdod Addysg Lleol (AALl) yn fodlon fod yr addysg o safon ddigon uchel.

Cynigir dewis o gymwysterau cenedlaethol i’r rhan fwyaf o bobl ifanc rhwng 11 a 16 oed, gan gynnwys TGAU (Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd), Diplomau Cyntaf a Chymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQs).

TGAU yw’r cymhwyster mwyaf poblogaidd i’w astudio a chynigir TGAU mewn ystod o bynciau yn dibynnu ar yr ysgol a fynychwch a’ch diddordebau.

Mae’r adran hon yn edrych ar rai o’r prif bethau a allai effeithio arnoch chi pan ydych yn yr ysgol.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.