Gwybodaeth » Addysg » Sgiliau
Yn yr Adran Hon
Sgil yw‘r gallu i wneud rhywbeth yn dda iawn, mae sgiliau fel arfer yn cael eu caffael neu eu dysgu.
Mae bod â sgiliau yn bwysig er mwyn cael swydd ac fe‘u defnyddir yn aml i gyflawni tasgau mewn bywyd bob dydd. Mae‘n debyg fod gennych lawer o sgiliau nad ydych hyd yn oed yn ymwybodol ohonynt. Gall darganfod beth yw eich sgiliau arbennig chi eich helpu i feddwl am beth yr hoffech ei astudio yn yr ysgol, y coleg neu‘r Brifysgol, neu ba swyddi y byddech yn fwyaf addas ar eu cyfer.
Mae sgiliau sylfaenol fel darllen, ysgrifennu a chyfathrebu yn bwysig i bopeth mewn bywyd, felly mae‘n hanfodol dysgu‘r sgiliau hyn hyd eithaf eich gallu.
Ceir sgiliau ymarferol y gallwn eu defnyddio‘n aml fel gyrru, coginio, garddio, DIY, defnyddio cyfrifiaduron a thechnoleg, neu ganu offeryn cerdd.
Mae sgiliau hefyd yr ydym yn eu defnyddio yn ein bywydau bob dydd sy‘n disgrifio sut y byddwn yn ymwneud â ni ein hunain a phobl eraill, fel cyfathrebu, gwrando, trafod, rheoli ein hamser, ymdrin â‘n hemosiynau a‘n teimladau.
