Gwybodaeth » Addysg » Dysgu yn y Cartref » Addysg i Oedolion ac Addysg Gymunedol
- Mae gan y rhan fwyaf o drefi Ganolfan Addysg Gymunedol sy’n cynnig cyrsiau rhan amser yn ystod y dydd a chyda’r nos ar gyfer oedolion.
- Mae’r cyrsiau a gynigir yn amrywio, ond byddan nhw’n cynnwys pynciau fel ieithoedd, celf a chrefft, coginio, sgiliau cyfrifiadurol, garddlunio, dawns a chrefft ymladd hefyd.
- Efallai bydd rhaid ichi dalu ffi fechan i fynychu’r cyrsiau hyn, ond os ydych chi ar fudd-daliadau, mae’n debygol y byddwch chi’n eu cael nhw’n rhad ac am ddim.
- Gall addysg gymunedol fod yn ffordd wych o fynd allan a chyfarfod pobl yn eich ardal leol a dysgu sgiliau newydd ar yr un pryd.
- Ymhlith yr opsiynau eraill ar gyfer oedolion sy’n dysgu mae mynychu’ch coleg lleol neu astudio trwy ddysgu o bell neu e-ddysgu - edrychwch ar ein herthyglau ar y rhain am fwy o wybodaeth.