Gwybodaeth » Addysg » Cymwysterau
Mae cymwysterau yn bwysig oherwydd maent yn profi eich bod wedi ennill gwybodaeth neu wedi datblygu eich sgiliau, a gallant eich helpu i gael swydd, eich cael i mewn i addysg uwch neu i ennill lle ar gwrs hyfforddi.
Mae llawer o wahanol gymwysterau y gallwch astudio ar eu cyfer ar wahanol lefelau, gyda chyngor ar gael i’ch helpu i ddarganfod rhywbeth i weddu i’ch gallu a’ch diddordebau. Gallech astudio am gymwysterau academaidd fel Lefelau Uwch neu radd, neu gallech ddewis cymhwyster sy’n gysylltiedig â swydd benodol yr hoffech ei gwneud.
Mae rhai swyddi a gyrfaoedd yn gofyn am gymwysterau penodol, er enghraifft mae ar feddygaeth a’r gyfraith angen gradd yn ogystal â phrofiad a hyfforddiant. Gellir gweithio tuag at rai cymwysterau wrth i chi weithio ac ennill profiad; er enghraifft cymwysterau gwaith ieuenctid.
Byddwch yn darganfod bod llawer o swyddi a hysbysebir yn gofyn am rai cymwysterau gan y bobl sy’n ymgeisio. Efallai y bydd arnoch angen cymwysterau penodol hefyd i ymgeisio am gwrs hyfforddi arbennig.
