Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg » Addysg Ôl-16 » Coleg

  • Mae yna ddau fath o goleg, sef chweched dosbarth ac addysg bellach (AB).
  • Mae colegau Chweched Dosbarth yn darparu cyrsiau ar gyfer myfyrwyr rhwng 16 ac 19 oed, ac mae colegau AB yn cynnig cyrsiau ar gyfer pobl ifanc ac oedolion.
  • Fel rheol, mae colegau’n fwy nag ysgolion, a byddwch chi’n cael y cyfle i gyfarfod pobl newydd a gwneud ffrindiau newydd.
  • Yn y coleg, bydd disgwyl ichi gymryd mwy o gyfrifoldeb dros reoli eich amser eich hun, ond bydd help a chefnogaeth ar gael o hyd pe bai eu hangen arnoch chi. Gall Gwasanaethau Myfyrwyr yn y coleg roi help ichi os oes gennych chi broblemau ar eich cwrs, gyda materion personol neu arian.
  • Fel rheol, gallwch chi wisgo dillad anffurfiol, ond gall rhai cyrsiau fynnu eich bod chi’n gwisgo dillad penodol, e.e. troswisg neu dracwisg coleg.
  • Mae colegau’n cynnig ystod eang o gyrsiau, gan gynnwys cyrsiau UG a Safon Uwch, a chyfle i ailsefyll TGAU. Fel rheol, mae’r dewis o gyrsiau sy’n ymwneud â gwaith yn fwy nag mewn chweched dosbarth mewn ysgol.

Sut fedra i ddod i wybod mwy am Goleg?

  • Ewch i ymweld â’r coleg ar noson agored neu ddiwrnod agored.
  • Darllenwch brosbectws colegau, edrychwch ar eu gwefannau neu edrychwch am wybodaeth am gyrsiau ar gyrfacymru.com Learning Choices
  • Siaradwch â’ch Cynghorydd Gyrfa
  • Siaradwch â phobl rydych chi’n eu hadnabod sydd eisoes yn y coleg.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.