Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Brwydr y Bandiau // Noddwyr

  • Sgiliau Cymru

    Mae Sgiliau Cymru yn rhoi cyfle i bobl ifanc ac oedolion ddarganfod ystod eang o yrfaoedd, cynlluniau hyfforddiant, opsiynau addysg a chyfleoedd sgiliau ar gael iddynt. Yn rhyngweithiol, cyffrous a hwyl, mae’r lle perffaith i ddarganfod popeth am sgiliau a gyrfaoedd.

  • Promo Cymru

    Mae ProMo Cymru yn sefydliad menter ieuenctid yn arbenigo yn y diwydiannau diwylliannol gyda hanes o gefnogi prosiectau creadigol arloesol ac arbrofol. Mae llwyddiant ProMo Cymru yn seiliedig ar ymgynghoriad clir, yn gweithio yn uniongyrchol gyda phobl ifanc yng Nghymru ac yn ymateb i’w anghenion.

  • Blue Banana

    Mae Blue Banana yn gyflenwr adnabyddus o ffasiwn a chyfwisgoedd amgen yn cael ei ddylanwad o’r sîn gerddoriaeth amgen. Mae’r siopau The Blue Banana ym Mhrydain yn hwyl i fod ynddynt, gydag awyrgylch parti yn chwarae goreuon cerddoriaeth roc ac amgen. Yn ogystal mae gan Blue Banana ddewis wych o ddillad a chyfwisgoedd gan rai fel Atticus, Famous Stars and Straps Clothing, Criminal Damage Clothing, Poizen Industires, Lowlife, Iron Fist, Dickies, Vans, Converse, a Osiris ymysg eraill!

  • Burning Red Studio

    Asiantaeth dylunio greadigol wedi’i leoli yng Nghaerdydd. Maent yn gweithio gyda bob math o bobl ar bob math o brosiectau brandio a chyfathrebu creadigol. Ymwela â’u gwefan i weld eu gwaith.

  • Subjective Realities

    Mae Subjective Realities yn gwmni cynhyrchu annibynnol wedi’i leoli yng Nghaerdydd, De Cymru. Maent yn gweithio gydag ysgrifenwyr, cyfarwyddwyr, cerddorion, labeli recordio, elusennau a busnesau o wneud fideos cerddoriaeth, ffilmiau byr, dogfennau, hysbysebion, fideos hyrwyddol, ‘stings’ a ‘idents’. Maent hefyd yn hwyluso gweithdai a mentoriaethau sydd yn bwriadu hyrwyddo’r celfyddydau a darparu pob math o bobl yn y gymuned gyda chyfleoedd a sgiliau newydd.

  • ALX MLS

    Mae Alex Mills (ALX MLS) yn ffotograffydd/gwneuthurwr-delwedd wedi’i leoli yng Nghaerdydd. Mae’n arbenigo mewn ffotograffiaeth band a modelu yn creu delweddau trawiadol i bortffolio pobl. I weld gwaith Alex, ymwela â’r linc isod.

  • Emu Bands

    Mae EmuBands yn caniat´u i labeli record annibynnol a bandiau heb eu harwyddo i werthu eu cerddoriaeth drwy ddarparwyr cynnwys mwyaf ar-lein a symudol gan gynnwys iTunes, eMusic, Napster, we7, HMV Digital a llawer mwy!

  • The Big Sleep Hotel

    Yn anelu at y rhai sydd ddim eisiau gwario ffortiwn, ond angen rhywle i aros sydd yn wahanol ac yn cynnig gwerth mawr am bris bach.

  • Golwg Magazine

    Cylchgrawn Cymraeg yn cynnig y gorau mewn celfyddydau Cymraeg. Am wybodaeth bellach am y cylchgrawn ymwela â’r linc isod.