Sut y gallaf i gymryd rhan?
Mae llawer o ddiddordeb wedi bod yn y ‘Tîm Golygyddol ShoutTawe’ ac mae lleoedd ar gael o hyd. Mae’r tîm yn agored i unrhyw un 11-25 oed, sy’n awyddus i gymryd rhan, ennill profiad a chael llawer o hwyl ar y prosiect cyffrous hwn.
Os oes gennych ddiddordeb mewn Ffotograffiaeth ac yr hoffech gyflwyno eich gwaith i ShoutTawe neu gyfrannu ymhellach at ddelweddau’r wefan, dewch i’r cyfarfod nesaf.
Os hoffech drafod materion neu broblemau pobl ifanc, yna mae cyfle i ymuno â’r tîm fel Gohebydd neu Newyddiadurwr.
Neu os hoffech fod yn is-olygydd a chyfrannu syniadau, safoni’r cynnwys a chyfrannu at ddatblygiad y wefan cysylltwch â ni.
Gallwch anfon eich storiâu, ffotograffau, fideos neu sylwadau at shouttawe.editorialteam@gmail.com
