Croeso i Shouttawe! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

What is ShoutTawe?

Mae Shouttawe yn wefan ryngweithiol sy�n hyrwyddo creadigrwydd a chyfranogiad uniongyrchol wrth ddarparu gwybodaeth am weithgareddau a gwasanaethau sydd ar gael i bobl ifanc Abertawe.

Mae�r safle yn gweithredu o fewn eich �Ten Entitlements (hawliau pobl ifanc fel y cyflwynir nhw gan Welsh Assembly Government) ac mae�n cyd-fynd � European Youth Information Charter.

Mae Shouttawe yn rhan o CLIC, Gwasanaeth Cenedlaethol yn rhoi Gwybodaeth a Chyngor i bobl ifanc yng Nghymru, sy�n cael ei ailddatblygu ar hyn o bryd ac yn cynhyrchu safleoedd tebyg dros Gymru gyfan.

Fel defnyddiwr cofrestredig mae gennych gyfle i lwytho eich cynnwys eich hun a�i weld yn fyw. Gallwch ysgrifennu erthyglau, rhoi adroddiad am bethau sy�n digwydd yn ac o amgylch Abertawe, bod yn ffotograffwyr, dylunwyr neu hyrwyddo digwyddiadau a gweithgareddau � darparu cynnwys am unrhyw beth yr hoffech ei weld yn cael ei gynnwys ar y wefan!

Pwy sy�n ei redeg?

Mae ProMo-Cymru�wedi ei gyllido ac yn cyflenwi Shouttawe mewn partneriaeth gyda Swansea Children And Young People�s Partnership. Goruchwylir cynnwys y cyfryngau gan Editor�a Grwp Golygyddol rhwng 11-25 sy�n cyfarfod yn rheolaidd i wneud penderfyniadau am gynnwys a newidiadau technegol. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno �r grwp neu fynychu un o�r cyfarfodydd, gweler yr adran ar sut y gallwch gymryd rhan.

Beth mae arno ei eisiau?

Eich cynnwys! Beth bynnag yr hoffech ei rannu: newyddion, adolygiadau, ysgrifennu creadigol, rhagolygon, erthyglau nodwedd neu rhowch wybod i bawb am eich digwyddiadau neu eich barn. Defnyddiwch ef i ddatblygu eich sgiliau newyddiadurol. Gallwch ychwanegu fideos o YouTube i eitemau newyddion a gallwch lwytho hyd at bum delwedd i gyd-fynd �ch stori.

Gallwch ddod o hyd i sefydliadau sy�n darparu gweithgareddau a chymorth yn eich ardal a hefyd ddweud pa mor addas i bobl ifanc y teimlwch y bu sefydliad tuag atoch wrth ddefnyddio eu gwasanaeth.

Mae�n rhoi cyfle i chi hefyd addasu cefndir eich tudalen gartref. Edrychwch ar them�u gwahanol a gyflwynwyd eisoes ar y chwith neu�here. Os ydych yn teimlo�n greadigol, darllenwch ein intro guide cyflym a chyflwynwch rai eich hun.

Cymerwch ddwy funud i gofrestru register a gallwch ddechrau submit�. Os oes arnoch angen cymorth, ebostiwch�youth@swansea.gov.uk.

Felly, yn gryno:

Beth yw Shouttawe?

  • Gwefan ryngweithiol a chylchgrawn chwarterol sy�n cynnig gwybodaeth, newyddion a chyngor i bobl ifanc 11 i 25 oed yn Abertawe.
  • Mae�n caniatau i bobl ifanc a sefydliadau sy�n gweithio gyda nhw lwytho erthyglau, digwyddiadau, lluniau, fideos a them�u cefndir
  • Mae Grwp Golygyddol o bobl ifanc yn arwain datblygiad y safle
  • Rhan o CLIC, Gwasanaeth Cenedlaethol yn rhoi Gwybodaeth a Chyngor yng Nghymru

Beth sy�n wych am Shouttawe a CLIC?

  • Mae�r cynnwys yn cael ei greu gennych chi a�r sefydliadau sy�n cefnogi eich gweithgareddau.
  • Mae�n caniat�u i chi ddweud beth a ddymunwch ac yn rhoi cyfle i chi gyfnewid syniadau
  • Mae�n creu, datblygu a rhannu gwybodaeth yn lleol ac yn genedlaethol.
  • Mae rhannu deunyddiau amlgyfrwng yn dangos eich syniadau a�ch sgiliau creadigol
  • Mae�n hyrwyddo cyfranogiad a chynhwysiant drwy grwpiau golygyddol a arweinir gan ieuenctid
  • Mae�n gweithio�n agos gyda rhwydweithiau gwybodaeth ieuenctid ar draws Cymru i rannu adnoddau
  • Llwyfan i chi a sefydliadau i roi cyhoeddusrwydd i�ch cynnyrch a�ch cyflawniadau
  • Mae�n tynnu sylw at syniadau ac arferion da i bawb ddysgu oddi wrthynt
  • Gallwch ddarganfod am brosiectau a sut i gymryd rhan o bob rhan o Gymru

Cwestiynau Cyffredin Shouttawe - eich galwad cyntaf ynghylch yr holl gwestiynau sy�n ymwneud � Shouttawe.